Fe wnaeth podlediad Cymraeg cyntaf Asiantaeth Mabwysiadu Cymru, ‘Dweud y Gwir yn Blaen: Straeon Mabwysiadu’, daflu goleuni y llynedd ar brofiadau Cymry Cymraeg o fabwysiadu, ac mae’n fwy posib nag erioed i unrhyw un wneud hynny bellach.
Dim ond hi a fi
I Sioned Roberts, dydy bod yn sengl ddim yn golygu nad yw mabwysiadu’n opsiwn. Pan ddaeth hi’n amlwg nad oedd cael plentyn yn naturiol yn bosib iddi, roedd rhaid meddwl am ffordd wahanol.
“Ro’n i wastad yn gwybod ’mod i eisiau cael plant, eisiau bod yn fam. Roedd o’n rhan o gynllun bywyd, a phan ges i wybod na fyddwn i fyth yn gallu cario plant yn naturiol, roedd o’n gnoc go hegar,” meddai Sioned, sy’n wreiddiol o Ddolgellau ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Cafodd ddiagnosis…