Faswn i ddim yn dy feio pe na byddet yn ei hadnabod. Ystadegyn yw hi i gymdeithas. Un o filoedd o fenywod sydd wedi cael eu lladd gan ddynion oherwydd eu rhyw. Femicide – benywladdiad – term a fathodd yr awdur ffeministaidd Diana E. H. Russell ar gyfer ‘lladd benywod gan wrywod oherwydd eu bod yn fenywaidd’.
Ond nid ystadegyn mo Rebecca Cheptegei, na’r menywod eraill ychwaith. Mae ganddynt oll eu cefndir unigryw eu hunain, a hanes i’w adrodd. Teuluoedd sydd nawr wedi eu dinistrio, plant heb famau, mamau heb eu merched, oll yn sgil trais dynion tuag at fenywod.
Yn achos Rebecca Cheptegei, dyma genedl sydd nawr heb arwres. Yn 33 oed, roedd hi’n athletwraig o fri, gan gynrychioli Uganda mewn sawl Pencampwriaeth Byd ers 2010, gan gynnwys Pencampwriaethau…