Mae dewis Peach Fuzz: PANTONE 13-1023 fel lliw y flwyddyn wedi hollti’r farn, gyda rhai’n dweud ei fod yn lliw diflas, hen ffasiwn. Ond mae’n lliw hawdd iawn i weithio gydag e, ac fe fyddwch chi’n ei weld ym mhob man eleni – unedau cegin, dodrefn, dillad, colur, pecynnu, logos… Mae’n lliw tawel, cartrefol a chynnes, sy’n cymysgu’r synhwyrau a’r berthynas rhwng arogli, teimlo, gweld a blasu.
Dyma sut mae’r cwmni’n disgrifio’r lliw: ‘A velvety gentle peach whose all-embracing spirit enriches mind, body, and heart.’ Mae’r elfen felfedaidd a gewch chi ar groen y ffrwyth yn cael ei hadlewyrchu ym meddalwch y defnyddiau, ac mae’n lliw sy’n gweddu gyda nifer o liwiau eraill, ac felly’n hawdd i’w ymgorffori yn eich cartref.
Mae’n gweddu’n dda gyda glas – gyda dodrefn pren,…