Mae hi’n pisio rhegfeydd,llyncu’r sêr,magu potel,ac awn heibio fel pe bai hi’n fodel o Fair farwmewn ffenest siop,awn heibio gyda’r esgus ein bod yn brysur,rhy brysur i’w Nadolig hi a’i fudreddi.
Ond mae un, gan ei bod yn oerach heddiw,yn rhoi coffi a donyt o Greggs iddi,a throf yn ôl a gweld ynddi ferch fach,yn llawn cyffro’r hosan drom ar waelod gwely,yn codi doli,gwelaf ferch hŷn hefyd yn codi babi o wellt,a gwelaf fy hunan a’m merch a’m hwyresac oeraf…
… a diolch i Dduw cyn dal i gerdded.
Mae MARI GEORGE yn awdur, bardd, golygydd a chyfieithydd. Enillodd Sut i Ddofi Corryn, ei nofel gyntaf i oedolion, wobr Llyfr y Flwyddyn 2024.…