1. Mae 60 Aelod o’r Senedd – 40 yn cynrychioli etholaethau, ac 20 yn cynrychioli rhanbarthau.
2. Mae Aelodau o’r Senedd sy’n cynrychioli etholaeth yn gyfrifol am ardaloedd llai na’r rhai sydd wedi’u hethol i gynrychioli rhanbarthau.
3. Mae’r pleidiau yn enwebu rhestr o ymgeiswyr ar gyfer y bleidlais ranbarthol. Bydd pedwar AS yn cael eu dewis ym mhob un o’r pum rhanbarth.
Dyma’r rhanbarthau:
* Dwyrain De Cymru (etholaethau Gorllewin Casnewydd, Dwyrain Casnewydd, Blaenau Gwent, Torfaen, Mynwy, Merthyr Tudful a Rhymni, Caerffili ac Islwyn)* Canol De Cymru (etholaethau Caerdydd, Bro Morgannwg, Cwm Cynon, Rhondda a Phontypridd)* Gorllewin De Cymru (Aberafan, Gŵyr, Castell-nedd, Ogwr, Dwyrain Abertawe a Gorllewin Abertawe)* Gogledd Cymru (Aberconwy, Alun a Glannau Dyfrdwy, De Clwyd, Gorllewin Clwyd, Delyn, Dyffryn Clwyd, Wrecsam ac Ynys Môn)* Gorllewin a Chanolbarth…