Pobl dduon – ‘yr arall’ yn ein cymdeithas
I Mirain Iwerydd James, 18 oed, o Grymych sydd o dras cymysg, mae diffyg amrywiaeth o ran hanes pobl dduon ar y cwricwlwm yn siom enfawr…
“Yr unig hanes mae pobl wedi ei weld yw pobl dduon mewn cadwyni fel caethweision, neu luniau erchyll o ddynion du wrth raff dan goeden. Brwydr yw bodolaeth pobl dduon mewn hanes, fel y gwnaethon ni ddysgu yn yr ysgol am fudiad hawliau sifil y 1960au,” meddai.
Dydy hi ddim yn diystyru’r pethau hyn am eiliad, meddai, ond mae angen siglad er mwyn gwella’r amrywiaeth yn y dyfodol.
“Mae’n andros o bwysig bod y pethau yma’n cael eu dysgu i blant yn y dyfodol, ond o ganlyniad i’r diffyg amrywiaeth sydd ar gwricwlwm ein hysgolion, dwi’n…