Ategolion, accessories, atodiadau, ychwanegiadau. Drwy newid yr ategolion, gallwch addasu’r un wisg mewn nifer o ffyrdd – o fod yn wisg ymarferol ar gyfer y dydd i fod yn wisg arbennig ar gyfer noson allan. Gallwch wisgo treinyrs, bag mawr, sgarff a het ar gyfer y dydd, yna eu newid am sodlau, bag llaw bach, clustdlysau a minlliw, a bant â chi am noson o hwyl! Mae’r darnau yma’n hollbwysig yng nghwpwrdd dillad merch. Erbyn hyn, dylai pawb fod yn llawer mwy ymwybodol o effaith creu ffabrig a dillad ar ein planed, felly prynu llai a phrynu’n ofalus yw’r nod, ac wrth brynu yn ymwybodol gallwch ddewis dillad sydd yn hyblyg ar gyfer achlysuron gwahanol.
Dylai pawb fod yn llawer mwy ymwybodol o effaith creu ffabrig a dillad ar ein…