Gyrfa lwyddiannus, gŵr cariadus, tŷ bach twt, giât ddel i’r ardd a mwg yn dod o’r simne yn awgrymu cartref clyd. Neu’r hawl i gredu nad oedd angen dyn ar fenyw, ac y gallai bywyd fod yn well heb ddyn. Yn y 90au roedd cylchgronau fy arddegau yn hyrwyddo’r syniadau hyn, un ar ôl y llall. Doeddwn i ddim yn siŵr bryd hynny beth oedd y dyfodol i mi, ond gwyddwn fod plant yn rhan ohono. Ond yn gynta, roedd rhaid mynd allan i gofleidio’r byd, fel merch annibynnol, felly i ffwrdd â fi i’r byd mawr i astudio ar gyfer fy ngradd ac wedyn dilyn cwrs ôl-radd.
Yna daeth blynyddoedd o weithio yn yr Almaen ac wedyn Llundain, ac roedd bywyd yn wallgo a phrysur. Cefais ddwy berthynas yn…