Byw bywyd ar blatfform
Marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol mae dylanwadwyr, ac yn y bôn maen nhw’n bobl sydd â’r pŵer i ddylanwadu ar arferion prynu neu weithredoedd eraill trwy uwchlwytho cynnwys gwreiddiol – wedi’i noddi yn aml – i lwyfannau fel Instagram, YouTube, Snapchat neu sianeli ar-lein eraill.
Un sydd wedi dod i’r amlwg dros y blynyddoedd diwethaf yw Jessica Davies.
“Wnes i ddechrau modelu pan o’n i’n 18 mlwydd oed, ac roedd Instagram yn blatfform eitha newydd, lle’r oedd pawb jyst yn taflu ffilter Valencia ar eu lluniau, a dyna ni!” meddai’r dylanwadwr o Aberystwyth.
Ond buan iawn y datblygodd y platfform i’r Instagram ry’n ni’n gyfarwydd ag e nawr, ac roedd hi’n lwcus, meddai, i ennill dilynwyr newydd yn naturiol wrth iddi wneud mwy o waith modelu.…