Wrth i’r rhifyn yma fynd i brint, ry’n ni mewn cyfnod anodd. Mae ’na bethau erchyll yn digwydd yn y byd. Mae pethau’n newid ac yn datblygu bob dydd. Dros y misoedd diwethaf mae anghyfiawnderau a thrasiedi Covid-19 a llofruddiaeth George Floyd wedi gwneud i bawb stopio, meddwl, dysgu a gweithredu.
Ry’n ni’n gwybod nad ydyn ni’n gwneud digon i gynrychioli’r diwylliannau a’r cefndiroedd amrywiol cyfoethog sydd gennym ni yng Nghymru. Mae bywydau du o bwys. Does dim amheuaeth am hynny. Ac mae angen i ni, fel llawer o sefydliadau eraill y Gymru Gymraeg, wneud yn well. Ond ry’n ni’n dysgu, ac am ymdrechu i wella hyn yn y dyfodol. Fel dwy fenyw groenwyn, ry’n ni’n rhan o’r system o orthrwm, ac yn elwa ohoni bob dydd. Felly rhaid i’r…