Diwedd blwyddyn arall, ac efallai ei bod hi’n dywyll, yn oer, a’r newyddion yn ddigon i’ch digalonni, ond peidiwch â phoeni, mae Cara yma i’ch cynhesu a rhoi cyfle i chi ddianc rhag y cyfan! Ac am wledd aeafol sydd gennym ni i chi y tro hwn, ac ambell flas o’r Nadolig hyd yn oed!
Roedd 2019 yn flwyddyn a hanner i’r ddwy chwaer Manon a Lleuwen Steffan. Dyma ddechrau cyfres o gyfweliadau Cara sy’n holi perthnasau benywaidd–yn chwiorydd neu’n fam a merch.
Ac ry’n ni wrth ein bodd yn lansio Cystadleuaeth Stori Fer Cara. Ein prif nod ni yw cefnogi menywod Cymru a rhoi cyfle iddyn nhw godi eu llais a dangos eu doniau. Ry’n ni, a’r beirniad, Manon Steffan, yn edrych ymlaen at weld eich cynigion! A diolch…