Os ewch chi i dudalennau Sbri Studio ar TikTok neu Instagram, allwch chi ddim peidio â chael eich cyfareddu gan fideos lliwgar o’r amrywiaeth eang o eitemau lledr sy’n cael eu cynhyrchu gan Emily Carr o’i gweithdy yn Ringwood ger Bournemouth. Mae ’na fag oren, daliwr iPods pinc gyda phrint llewpart, cylchoedd allweddi ym mhob un o liwiau’r enfys, pyrsau piws, strap mat ioga melyn, coleri cŵn a daliwr bagiau carthion i fatsio, a llawer iawn mwy. Mae’n gasgliad sydd wedi cynyddu tipyn dros y tair blynedd diwethaf.
“Mae pobl yn tueddu i hoffi pethe gwahanol, ac felly mae angen i ni gynnig yr amrywiaeth yna,” meddai Emily, sydd wedi bod yn rhedeg Sbri Studio ers 2020, ochr yn ochr â’i gŵr, Tony. “Mae gen i lot o syniadau, a…