Llio James
Cafodd Llio ei magu yn Nhal-y-bont, i’r gogledd o Aberystwyth, pentref oedd â dwy felin wlân ar un adeg. Erbyn hyn mae’n creu ei brethyn ei hun â llaw o’i stiwdio fechan yn Sblot, Caerdydd, gan gydweithio â melinau gwlân a’u gwehyddwyr. Mae ganddi gynnyrch amrywiol – o glustogau, sgarffiau, mwffleri, a charthenni o bob maint i gynlluniau ar bapur wedi eu gosod mewn ffrâm.
lliojames.com
1 Carthen ‘Streip’, 180cm x 133cm (£575)
2 Print Rhif 10 ar Bapur, 29cm x 42cm, heb ffrâm (£25)
Sara Lleucu
Mae Sara Lleucu yn byw yn Llangwyryfon, Ceredigion ac mae’n arbenigo mewn tecstiliau. Mae siapiau, lliwiau a phatrymau tirlun Cymru yn amlwg yn ei dyluniadau gwlân, fel y clustogau a’r lluniau abstract, a’r gwaith peintio, sy’n dangos lleoliadau fel Portmeirion ac Aberteifi.…
