O’r Rhuddin
Sioned Erin Hughes Y Lolfa £10.99
Dyma gyfrol ddiweddaraf Sioned Erin Hughes, awdur, bardd a golygydd hynod dalentog sydd â rhestr hir o lwyddiannau llenyddol yn barod. Does fawr o syndod, felly, ei bod wedi llwyddo i ehangu ei gorwelion ymhellach wrth gyflwyno casgliad o 365 o ddarnau creadigol rhwng y cloriau hyfryd hyn, darnau a osodwyd yn wreiddiol, fesul diwrnod, ar Instagram trwy gydol 2023. Esgorodd hyn ar gymuned o ddilynwyr oedd yn gwerthfawrogi gonestrwydd, uniongyrchedd ac arddull agos atoch yr ysgrifennu. Er imi ddilyn y myfyrdodau yn rhithiol, synnais at y profiad gwahanol, a buddiol, o ailymweld â’r darnau ar eu gwedd ‘gorfforol’.
Mae Erin yn gwau ei stori trwy haenau o bynciau amrywiol, megis hunanddelwedd, cariad, teulu, tyfu, newid, hunanymwybyddiaeth, salwch, byd natur… ac mae’n…