Mae cyfnod y menopôs yn gallu bod yn heriol i berthynas. Gall olygu blynyddoedd o newidiadau corfforol, meddyliol ac emosiynol, gyda symptomau megis iselder, gorbryder, tymer ddrwg, gorflinder, rhyw poenus, diffyg cwsg, gorbwysau ac yn y blaen. Mae’n bwysig iawn trafod y pwnc oherwydd yr effaith mae’n ei gael ar y fenyw ac, o ganlyniad, ar y berthynas â’i phartner.
Mae’r ystadegau yn dangos fod achosion o ysgariad ar eu huchaf o gwmpas 40–55 oed, sef cyfnod y perimenopôs a’r menopôs, a menywod sydd fwyaf tebygol o adael y briodas. Ond mae angen deall bod llawer o gyplau wedi bod gyda’i gilydd ers degawdau erbyn cyrraedd canol oed, a bod cynnal perthynas hirdymor yn heriol beth bynnag.
Felly does dim rhyfedd fod y menopôs yn rhoi mwy o straen ar…
