Ditzy, scatterbrain, diog, nyts, anniben, anhrefnus, dros y lle, chatterbox, rebel, didoreth, wastad yn hwyr… mae’r rhain i gyd yn eiriau sydd wedi cael eu defnyddio i’m disgrifio i ar ryw adeg neu’i gilydd.
Yn blentyn, ro’n i’n swil, yn aml yn bryderus ac yn gorfeddwl, a byddwn yn bachu’n llwyr ar hobi cyn ei ollwng ar gyfer yr un nesaf. Yn fy arddegau ro’n i’n aml yn gadael fy ngwaith cartref tan y funud olaf un, ac er i mi ragori yn y pynciau ro’n i’n eu caru, ro’n i’n wrthryfelgar ac yn aflonyddgar yn ystod y gwersi. Fel myfyriwr yn y brifysgol, ro’n i’n adnabyddus am fod yn hwyr bob amser a des i’n agos iawn at fethu fy mlwyddyn gyntaf, ar ôl gadael yr adolygu tan y…
