Torrais fy nghalon unwaith ac fe wylais nes i’m llygaid hallt, chwyddedig droi’n ddau lyffant boliog a neidio mewn i ffos gerllaw.
Ac o weld hyn, trodd fy nagrau’n bysgod, yn silidons ac eogiaid gloyw, a phlymio fesul un i mewn i’r môr.
Troes rhai yn blu eira a gorchuddio llawr y gegin yn lluwchfeydd dyfnion at fy nghluniau.
Troes rhai yn sêr gwib a hedfan trwy’r ffenest, fel dagrau San Lorenzo yn fflamau sodiwm clorid, coch.
Troesant yn dylluanod llygaid llus, a hedodd mewn i’r coed i hela llygod maes.
Tagais wyfynod gwynion yn ddagrau o waelod hafn y frest, a aeth i gnoi’r siwmperi gwlân yng nghypyrddau’r llofft.
Ac fe wylais, nes bod synau rhyfedd yn codi o’r stumog, yn curo’n erbyn yr asennau ac yn hyrddio trwy’r…
