Cymerwch amser i greu y gaeaf yma. Trowch Radio Cymru ymlaen ac ymgollwch yn y broses o bwyso a mesur cynhwysion, torri, cymysgu a rolio, coginio a chreu.
Mi fydd y Nadolig yma’n reit ulw anodd i ambell un ohonon ni a gall y broses o greu nid yn unig fod yn help i gael amser i ymdawelu, ond mae anrheg wedi’i wneud adref yn fwy arbennig a hefyd, yn aml, yn rhatach.
Dwi’n cofio gweld un o’r rhaglenni teledu yna sydd yn eich dysgu sut i ‘drefnu’r tŷ’ (faswn i ddim yn synnu mai Sort it oedd enw’r rhaglen), a dyma nhw’n sôn am le i chi gadw eich ‘hostess gifts’! Hostess gift? Wnes i ’rioed ddallt bod enw ar yr anrhegion yna dach chi’n eu cymryd yn eich…