Lan ar ben bryn, mewn tŷ yn edrych allan dros Fae Ceredigion ges i fy magu. Heddiw, wrth ysgrifennu’r erthygl yma yn Ffrainc, mae’n anodd credu bod 30 o flynyddoedd ers imi adael Aberystwyth, yr hafan honno o Gymreictod lle ces i addysg o sylwedd yn yr Ysgol Gymraeg ac Ysgol Gyfun Penweddig.
Roedd addysg o fy nghwmpas, yng ngwaith fy rhieni – Mam yn athrawes a Dad yn ddarlithydd ac yn is-brifathro Coleg Ceredigion – gyda’r rhan fwyaf o’u ffrindiau hefyd ym myd addysg. Roedd yn fywyd oedd wedi ei wreiddio yn y ‘pethe’ Cymreig: gwersi telyn, Adran yr Urdd, oedfaon Sul y Plant yn y capel a chystadlu mewn eisteddfodau (llenyddiaeth, yn hytrach na’r llwyfan!). Ond, fel y dywedai Mam yn aml, roedd rhaid i fi fod yn…