Rhagair gan Manon Steffan Ros
30 o straeon byrion gan 28 o ferched a ysgrifennwyd ar gyfer cystadleuaeth stori fer Cara.
Yn ôl y beirniad, Manon Steffan Ros:
Pleser llwyr oedd cael pori drwy ymgeisiadau cystadleuaeth ysgrifennu creadigol Cara. Wel, dwi’n deud pori – dyna oedd y bwriad. Ond yn syth bìn, cydiodd y straeon yma yn fy meddwl, a chefais fy hudo.
Mae’r gyfrol yn cynnwys amrywiaeth o awduron yn ysgrifennu ar wahanol themâu yn ymwneud â’r testun Adref. Enillydd y gystadleuaeth oedd Marged Elen Wiliam o Benrhosgarnedd, yn ail roedd Sioned Erin Hughes o Foduan, Pen Llŷn, ac yn drydydd roedd Lowri Haf Cooke o Gaerdydd.
Yr awduron eraill yw Heiddwen Tomos, Casia Wiliam, Dana Edwards, Mari George, Siân Teifi, Rebecca Roberts, Eurgain Haf, Gwenfair Griffith, Miriam Elin…
