Dychmygwch: mae eich cartref yn adfail, eich cymuned wedi’i chwalu, a’ch plant yn deffro i sŵn seirenau, nid cân adar. Pan fyddwch chi’n cyrraedd man diogel o’r diwedd, nid elusen sydd ei hangen arnoch, ond yr hawl syml i deimlo’n ddynol eto.
Dyma pam mae Cymru yn fwy na lleoliad daearyddol. Mae ein statws fel Cenedl Noddfa (Nation of Sanctuary) yn fynegiant o’n hunaniaeth – datganiad o ddynoliaeth, nid gelyniaeth. Mae gennym ymrwymiad i roi croeso a chefnogaeth i bobl sy’n ffoi rhag erledigaeth a rhyfel.
Ond mae’r asgwrn cefn moesol hwn bellach dan ymosodiad sinigaidd, chwerw, wedi’i arfogi gan y rhai sy’n hyrwyddo ofn yn lle gobaith.
Peth arswydus, ond cwbl ragweladwy, yw gweld plaid Reform yn ymosod ar y polisi hwn gyda gwybodaeth anghywir, beryglus.
Ynghanol isetholiad Caerffili,…