Llaw lan sawl un ohonoch chi sydd wedi ca’l, neu sy’n nabod chwaer, mam, ffrind gore neu gyd-weithiwr sy wedi ca’l, neu sy ar fin ca’l caesarean. Ma’n llaw i lan yn uchel ar gyfer y tri. SPOILER! Fi’n feichiog eto :)Ac am y tro cynta fi’n eitha sicr y bydda i’n ca’l elective C-section, hynny yw, fi’n gwbod o flaen llaw ’mod i am eni’r babi drwy’r sunroof ac yn ca’l dyddiad penodol. Ma Wini a Besi wedi’u geni drwy C-section, ond y ddwy yn emergency – Wini ar ôl 50 awr o induction aflwyddiannus (sbort a sbri!), a Besi ar ôl be ma nhw’n ei alw’n ‘spontaneous labour’ (y geni yn dechre’n naturiol), ond ar ôl orie o contractions, doedd y dryse jyst ddim ffansi agor. Dim mwy…