Heb amheuaeth, mae’r gaeaf wedi cyrraedd! Gyda’r newid tymor daw newid yn ein bwyd i ryseitiau cyfoethocach a mwy cysurlon. Dyma amser perffaith felly i fwynhau gwinoedd sy’n cynnig cynhesrwydd, boed hynny’n winoedd gwyn cyfoethog neu’n winoedd coch mwy aeddfed.
I gyd-fynd â ryseitiau hyfryd Delyth ar gyfer y gaeaf, dyma ychydig o awgrymiadau am ddiodydd addas o’r archfarchnadoedd, a rhai o winllannoedd Cymru, gan Deian Benjamin o wefan Gwin a Mwy – gwinamwy.com
CWRS CYNTAF
Mae’r hyn a dyfir gyda’i gilydd yn paru’n dda. Gyda dylanwad Sbaenaidd ar y rysáit, byddai’r Rioja gwyn yma o’r Co-op (Cune Rioja 2023, £9.50) yn berffaith, gan ategu sbeis y chorizo a melyster y tatws melys. Neu beth am arbrofi gyda’r gwin coch hynod yma o Asda (Old Vine Garnacha, £6.75, ond £5.75…
