Dywed rhai fod print llewpart yn cael ei gysidro’n niwtral erbyn hyn. Hynny yw, mae’n mynd gyda phob dim, yn un o’r ‘lliwiau’ rydyn ni’n gallu’i wisgo o hyd ac sy’n gweddu gyda chynnwys ein cypyrddau dillad, fel du, beige (neu lwydfelyn) a tan, ac felly’n hanfodol i bob un ohonon ni!
Dwi o’r oed lle mae’r atgofion cyntaf o brint croen anifail ynghlwm wrth steil gwallt cwch gwenyn, gemwaith a sigarét y fythgofiadwy Bet Lynch ar Coronation Street. Roedd hi’n gwisgo print llewpart yn aml, naill ai ar ffurf blowsen, ffrog neu got ffwr – dyna oedd ei phrint hi, roedd e’n rhan ohoni. Roedd nifer yn cysylltu hyn â diffyg chwaeth, gan gredu ei fod yn edrych yn rhad, ond mae pethau’n wahanol erbyn heddiw.
Yn wreiddiol, wrth…
