Mae hi wedi bod yn dymor o chwyldro i bêl-droed merched yng Nghymru, gyda’r tîm rhyngwladol yn torri tir newydd a’r gynghrair genedlaethol wedi ei hailwampio’n llwyr, gyda fformat a brand newydd sbon.
Yr Adran Premier yw’r enw newydd ar y gynghrair, sydd bellach ag wyth tîm ynddi – y pencampwyr presennol, Abertawe, Prifysgol Met Caerdydd, Dinas Caerdydd, Aberystwyth, Port Talbot, Pontypridd (clwb Cyncoed ar ei newydd wedd) a dau glwb sy’n newydd i’r haen uchaf, y Barri a’r Seintiau Newydd.
Domestig
Mae fformat newydd i’r gynghrair, sy’n golygu bod y clybiau’n chwarae 14 gêm mewn tymor o fis Medi tan fis Ionawr, gan chwarae ei gilydd ddwywaith yn rhan gynta’r tymor. Yn ail ran y tymor, mae’r pedwar uchaf yn chwarae ei gilydd eto, a’r pedwar isaf hefyd yn…