Duw a ŵyr sut Ddolig sydd o’n blaenau. Ai hen hanes yw partïon swyddfa, bwrlwm dinas a thwrw tafarn ar drothwy’r ŵyl fawr? Wrth i mi sgwennu mae’r wythnosau sydd i ddod yn drwch o ansicrwydd, a dyn yn teimlo rhyw annifyrrwch wrth geisio darogan beth fydd y camau nesaf. Beth fydd effaith yr afiechyd ar ein harferion dros y Nadolig? Yr anhrefn, y prysurdeb, y gwario… y diota? (Heb sôn am logistics Drama’r Geni, a Mair a Joseffddau fetr o’r preseb…)
Ond yn ystod y cyfnod dyrys, diflas hwn, dangosodd nifer o gwmnïau bychain, teuluol Cymru ryw ddycnwch a chreadigrwydd arbennig. Rhoi llwyfan i’r rheiny ydw i yn yr erthygl hon. Dwi am ei alw’n… ddiota cydwybodol, os ga i. (Unrhyw esgus.)
Dyma rai cwmnïau sydd wedi serennu drwy’r…
