Mae teulu Sharon â’i wreiddiau’n ddwfn yn Sir Gaerfyrddin, y naill ochr i’r Mynydd Du, a Saran wedi ei geni a’i magu yng Nghaerdydd. Mae eu magwraeth wedi dylanwadu’n gryf ar y ffordd mae’r ddwy’n gweld y byd.
Sharon: Ma ’nheulu i o Landeilo a Llangadog ar un ochr, a Chwmaman ar yr ochr arall, ar wahân i ’nhad-cu, tad fy mam, a ddaeth o Birmingham. Magwyd fy rhieni ar yr un stryd – Heol Tir Coed yng Nglanaman. Ges i ’ngeni yng Nghlawddowen, ddim yn bell o Brechfa, lle oedd fy nhad yn brifathro, ond ges i fy magu yn Llandyfaelog ar bwys Caerfyrddin. Des i i’r brifysgol yng Nghaerdydd yn 1967 i astudio Hanes, ac ar ôl cyfnodau ym Mangor a Llundain, yma yn y brifddinas dwi wedi…