Mae Wrecsam yn dref farchnad fawr ar y ffin yng ngogledd-ddwyrain Cymru, a chanddi boblogaeth o oddeutu 65,000. Mae Wrecsam hefyd yn fwrdeistref sirol, sydd â phoblogaeth o oddeutu 136,000, gan gynnwys poblogaeth y dref ei hun sy’n ganolfan weinyddol iddi. Wrth fynd ati i baratoi’r erthygl hon, des i’n fwyfwy ymwybodol o ba mor amwys yw’r ffiniau rhwng y ddau le sy’n rhannu’r un enw – y dref a’r sir. Anodd iawn oedd ceisio gwahaniaethu rhyngddynt, gan fod yn deg hefyd i ‘The Wrexham experience’ fel y’i disgrifiwyd gan un o’r trigolion lleol. Yn wir, mae Wrecsam yn fwy fel dinas sy’n glytwaith o bocedi trefol a gwledig.
Daw natur anghyffredin y fro o’r ffaith iddi dyfu’n organig, trwy gyfnodau o ffyniant mewn diwydiannau trwm, megis glo, haearn, dur,…