Nadolig 2015 oedd hi, a daeth Matthew, gŵr Nia, adre o’r gwaith a dweud wrthi, “Ga i air?” Bu bron iddi gwympo o’r soffa pan glywodd e’n dweud, “Dwi’n meddwl trio am swydd yng Ngwlad Pwyl!”
Meddai Nia, “Nid hwn oedd y mid-life crisis ro’n ni’n ei ddisgwyl ganddo! Serch hynny, wedi cryn dipyn o drafod penderfynon ni fynd amdani–antur gyffrous i’r teulu cyfan.”
Ac erbyn mis Ebrill 2016 roedd Matthew wrth ei ddesg yn Warsaw, a dilynodd Nia a’r ddwy ferch, Eiry, oedd yn 5 oed, a Gwen, oedd yn 2, ym mis Awst.
“Gyda’m llaw ar fy nghalon, symud i Warsaw gyda dwy ferch fach oedd un o’r pethau anodda i mi ei wneud erioed fel mam. Mae’r dyddie cynnar hynny yn gwmwl o atgofion o fod yn…