Gyda sawl cangen o’i theulu eisoes yn trin coed, doedd dim syndod mai gyda’r deunydd hynafol yma y byddai Miriam Jones yn gweithio yn y dyfodol. Seiri coed oedd ei thaid, ei hewythr, ei hen daid a’i hen hen daid, yn byw ac yn gweithio ym Mhen Llŷn. Hi ydy’r bedwaredd genhedlaeth, ond yr unig ferch o’r teulu i fentro i’r maes, a’r unig un sy’n turnio pren.
Mae ei gwaith yn cynnwys powlenni wedi eu troi o bren wedi ei ailgylchu, dalwyr canhwyllau gydag edafedd lliwgar, potiau blodau, stolion, gemwaith, tlysau, ac yn fwy diweddar potiau sy’n cyfuno gwaith pren a gwlân wedi ei wehyddu.
Ac mae fferm ei theulu yn Llanengain, ryw filltir o Abersoch, yn ysbrydoliaeth enfawr i’w gwaith. Felly hefyd y Gymraeg, hanes Cymru a cherddi.…