“Bydd profiadau’r Camino yn aros yn dy galon am weddill dy oes,” meddai Ara, fy arweinydd ar y Camino de Santiago. Roeddwn ar drothwy fy mhen-blwydd yn ddeugain oed, ac yn ysu am antur.
Mae pobl yn dewis cerdded y Camino de Santiago am sawl rheswm, boed yn rhai ysbrydol neu er mwyn eu datblygiad personol, neu i ddarganfod diwylliant gwahanol. Wedi cyfnod digon heriol yn fy mywyd, ac wrth ailddarganfod fy ffydd, roeddwn yn gyffrous, ac am wneud y mwyaf o bob profiad.
Pererindod Gristnogol yw’r Camino, yn deillio o’r oes Rufeinig. Cerddais 100km ar draws Galicia yng ngogledd Sbaen i gyrraedd dinas Santiago de Compostela, lle yr honnir bod olion yr Apostol Iago wedi’u claddu. Teithiais yn rhan o grŵp o ferched nad oeddwn wedi cwrdd â nhw…
