Dwi’n feichiog!
O’n i’n feichiog yn ysgrifennu’r erthygl ddiwethaf i Cara, ond yn ddiarwybod! Neu falle bod fy isymwybod i’n gwbod, a dyna pam o’n i’n hapus i rannu ’mod i’n trio? Pwy a ŵyr!
Dwi hanner ffordd trwy’r beichiogrwydd a ma’r sylwade ‘Ti’n siŵr bod ti ddim yn ca’l twins?’, ‘Waw, ti’n fawr am 20 wthnos’ wedi dechre eto… Hmmm…
‘Waw, ti’n fawr am 20 wthnos’ Dwi mor ecseited. Alla i jyst ddim aros i ga’l sniff o’r pen bach ’na a dod i nabod rhywun newydd sbon, ond ma’r dynesiad at yr enedigaeth yn brofiad gwahanol tro ’ma.
Pa mor ddiflas yw ‘stori geni’ rhywun arall? Stori lle chi’n gwbod beth yw’r diweddglo?
Petaech chi’n gofyn i Mam, bydde hi’n gweud bod dim diddordeb o gwbl gyda hi,…
