• Dinas fwyaf Nigeria, a’r ail ddinas fwyaf poblog ar gyfandir Affrica, gyda 15.3 miliwn o bobl.
• Un o borthladdoedd mwyaf a phrysuraf Affrica.
• Eko oedd enw’r ddinas cyn i’r Portiwgeaid ei henwi’n Lagos (lagos = llynnoedd).
• Mae dwy brif ynys a thros 12 o draethau yn Lagos.
• Y Third Mainland Bridge, un o’r pontydd sy’n cysylltu’r ynysoedd â’r tir mawr, oedd pont hiraf Affrica tan 1996. Mae’n 11.8km o hyd.
• Yma mae’r nifer uchaf o filiwnyddion Nigeria, a’r trydydd uchaf yn Affrica (yn dilyn Cairo a Johannesburg).
• Mae’n enwog am ei sin gerddoriaeth ac am nifer fawr o wyliau o bob math.
• Yn Lagos mae adeilad uchaf Gorllewin Affrica, sef tŵr NECOM House.
• Mae’n enwog am ei stondinau bwyd, yn enwedig…