Yn fy ngholofn ddiwethaf edrychais ar dai Tuduraidd, oedd yn sylfaenol hierarchaidd, yn adlewyrchu’r cynllun teiran y tu mewn gyda’r ‘pen uchaf’, y neuadd fawr, a’r ‘pen isaf’. Yr arddull bensaernïol fwyaf cyffredin hyd ddiwedd yr Oesoedd Canol oedd yr arddull Gothig, oedd yn cynnwys llawer o fanylion eglwysig. Y datblygiad pensaernïol mwyaf amlwg yng Nghymru yn y cyfnodau Elisabethaidd a Jacobeaidd – teyrnasiad y frenhines Duduraidd olaf, Elisabeth I (1558–1603) a’r brenin Stiwardaidd cyntaf, Iago I (1603–1625) – oedd y Dadeni Eidalaidd, a gafodd effaith sylweddol ar steil a ffurf tai.
Yn ystod y Dadeni Eidalaidd, trodd penseiri at adeiladau’r Ymerodraeth Rufeinig, fel amffitheatrau, temlau, baddonau a dyfrbontydd, am ysbrydoliaeth ar gyfer eu dyluniadau. Un o’r pethau a gymerwyd o’r adeiladau hyn oedd addurniadau y dulliau Clasurol, sef Dorig,…