Panfyddwn ni’n gwylio rhaglenni fel Bridgerton, neu addasiad ar gyfer y sgrin o Pride and Prejudice, cawn ein gosod mewn byd o fraint, arian a chyfleoedd. Mae Mr Darcy yn ddyn hynod o gefnog, ac mae Pemberley, ei ystâd yn y nofel, yn cael ei chynrychioli gan sawl ystâd mewn addasiadau gwahanol o’r stori – gan gynnwys Renishaw Hall yn Swydd Derby, Lyme Park ger Stockport (addasiad y BBC yn 1995), a Chatsworth House, eto yn Swydd Derby (yn yr addasiad ffilm gyda Keira Knightley a Matthew Macfadyen yn 2005).
Ond sut fywyd fyddai gan y rhan fwyaf ohonon ni, ddarllenwyr Cara, pe baen ni’n byw yng nghyfnod Pride and Prejudice? Ac ym mha fath o le y bydden ni, o bosib, yn byw?
Cyn 1604 roedd gan bawb hawl…
