Fedra i ddim dweud enw’r dre heb adrodd yr hen rigwm adnabyddus. Does gen i ddim syniad pwy biau’r geiriau hyn, ond maen nhw wedi eu naddu’n ddwfn yn y cof ers fy mhlentyndod cynnar. O ran enw’r dre ei hun, dwi wrth fy modd efo fo. Mi fedra i glywed y tonnau yn poeri ewyn yn yr enw, fel codi cragen i’r glust. Mi fedra i hyd yn oed flasu’r môr yn yr enw. Ac mae jyst yn gwneud synnwyr, dydy? Ers talwm, pwll o halen yn llythrennol oedd y dre, am fod y rhan fwya o’r tir, ar un cyfnod, o dan yr eigion.
Mae’r môr yn rhan mor bwysig o hanes, treftadaeth a chymeriad Pwllheli. Oherwydd ei lleoliad, datblygodd diwydiannau pysgota, adeiladu llongau, yr harbwr ac, wrth…
